Pam na alla’ i archebu’r presgripsiwn rydw i ei eisiau?

Os nad yw presgripsiwn amlroddadwy rydych chi eisiau ei archebu ar y rhestr Presgripsiynau Amlroddadwy sydd ar Gael, efallai ei fod wedi dod i ben neu rydych chi wedi cyrraedd uchafswm yr archebion ac mae angen i’ch meddygfa ei ail-awdurdodi. Yn y sefyllfa hon, bydd yn ymddangos yn y rhestr Presgripsiynau Amlroddadwy nad ydynt ar Gael.

Cysylltwch â’ch meddygfa os na allwch archebu’r presgripsiwn amlroddadwy sydd ei angen arnoch.

Sylwer – Nid oes hawl gyfreithiol i wneud cais ar-lein am rai meddyginiaethau. Ar gyfer Cyffuriau a Reolir, rhaid i chi gysylltu â’ch meddygfa’n bersonol i wneud cais am bresgripsiwn amlroddadwy.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.